Ynglŷn â QAA
Yr hyn a wnawn
Rydym yn diogelu safonau ac yn gwella ansawdd addysg uwch y DU, ble bynnag y caiff ei darparu ledled y byd
Rydym yn gwirio bod myfyrwyr sy’n gweithio tuag at gymwysterau’r DU yn cael yr addysg uwch y mae ganddynt hawl i’w disgwyl.
Ein Gwaith
Fel y corff annibynnol yr ymddiriedir ynddo i fonitro a chynghori ar safonau ac ansawdd addysg uwch y DU, rydym wedi ymrwymo i wneud yn sicr bod y tair miliwn o fyfyrwyr sy’n gweithio tuag at gymwysterau’r DU yn cael y profiadau addysg uwch y mae ganddynt hawl i’w disgwyl. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud â phob agwedd ar ein gwaith.
Rydym yn gweithio ar draws pedair gwlad y DU. Rydym hefyd yn adeiladu partneriaethau rhyngwladol i wella a hyrwyddo enw da addysg uwch y DU ledled y byd.
Ein Gwaith yn Lloegr
Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Myfyrwyr a darparwyr i sicrhau ansawdd addysg uwch yn Lloegr.
Darllenwch fwy yma
Ein Gwaith yn yr Alban
Mae QAA yn gweithio gyda Chyngor Cyllido’r Alban i sicrhau ansawdd addysg uwch yn yr Alban.
Darllenwch fwy yma
Ein Gwaith yng Nghymru
Rydym ni’n gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau ansawdd addysg uwch yng Nghymru.
Darllenwch fwy yma
Ein Gwaith yng Ngogledd Iwerddon
Rydym yn gweithio gydag Adran yr Economi a darparwyr i sicrhau ansawdd addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon.
Darllenwch fwy yma
Gweithio’n Rhyngwladol
Mae’r DU yn chwarae rhan arwyddocaol ym maes addysg uwch ryngwladol. Mae gennym ran flaenllaw mewn datblygiadau rhyngwladol o ran safonau ac ansawdd.
Darllenwch fwy yma
Gallwch ganfod mwy amdanom yma:
Sut rydyn ni’n cael ein rhedeg |
Ble rydym yn gweithio |
Gyda phwy rydyn ni’n gweithio |
Ein Cenhadaeth
Diogelu safonau a gwella ansawdd addysg uwch y DU ble bynnag y caiff ei darparu ledled y byd
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw system addysg uwch sydd o safon fyd-eang, ag iddi sicrwydd annibynnol.
Ein Gwerthoedd
Cydweithredu
- Mae ein Bwrdd yn ymgorffori cyd-reoleiddio, gan gynrychioli buddiannau myfyrwyr, darparwyr a rhanddeiliaid – sy’n cydweithio i arwain QAA,
- ac rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr, asiantaethau sector a chyrff proffesiynol, gan gydweithredu er budd y sector.
- Rydym yn gweithio ar y cyd â myfyrwyr a mudiadau myfyrwyr i ymgysylltu â myfyrwyr a gwella eu profiad dysgu.
- Drwy gydweithredu, rydym yn cefnogi gofynion unigryw gwledydd cartref y DU.
Arloesedd
- Rydym yn darparu dulliau, gwasanaethau a digwyddiadau gwerthfawr newydd arloesol i wella arfer a chynnig cefnogaeth i ddarparwyr,
- yn ogystal ag adolygu ein systemau a’n prosesau mewnol yn arloesol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd sy’n gost-effeithiol
Arbenigedd
- Rydym yn darparu cyngor arbenigol i lywodraethau’r DU,
- gan ddefnyddio ein harbenigedd i gryfhau sicrwydd ansawdd yn rhyngwladol
- a defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd er budd darparwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid.
Atebolrwydd
- Rydym yn atebol i’n rhanddeiliaid drwy ein strwythurau llywodraethiant,
- ac mae gennym brosesau cwyno ac apelio ar waith i sicrhau ein bod yn cael ein dal yn atebol am ein penderfyniadau.
Uniondeb
- Mae uniondeb wrth galon yr asiantaeth ac, fel elusen gofrestredig, rydym yn gweithredu er budd y cyhoedd yn gyffredinol.
- Rydym yn deg ac yn dryloyw yn ein gweithgareddau, gan weithredu gydag uniondeb bob amser.