English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Lleyg

Disgrifiad rôl – Aelod Lleyg o’r Cyngor ac Ymddiriedolwr y Brifysgol

Diben y rôl

Mae Aelodau Lleyg yn gwneud cyfraniad hanfodol i Brifysgol Caerdydd. Maent yn gweithio gydag aelodau eraill y Cyngor a’r Bwrdd Gweithredol i bennu cenhadaeth, cyfeiriad strategol, nodau cyffredinol a gwerthoedd y sefydliad. Mae cefndiroedd ein haelodau lleyg yn amrywio’n fawr, fel sy’n addas i sefydliad sy’n cynnig gwasanaethau addysgu a gwasanaethau i dros 33,000 o fyfyrwyr ac yn cefnogi datblygiad academaidd a phroffesiynol dros 8,000 o staff.

Drwy fod yn Aelod Lleyg ac yn Ymddiriedolwr, eich rôl chi yw gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn cyflawni ei chynllun strategol yn unol â gofynion deddfwriaethol a rheoliadol, yn bodloni’r gwerthoedd y mae wedi’u datgan, ac yn dilyn ei pholisïau a’i gweithdrefnau gyda systemau rheoli a rheoli risg effeithiol ar waith.

 

Cyfrifoldebau Allweddol

Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y sgiliau a’r cymhwysedd i gyflawni’r swyddogaethau hanfodol canlynol i fod yn aelod lleyg o’r Cyngor:

  1. Craffu’n feirniadol ar strategaeth, cynlluniau ariannol a chynlluniau eraill, risg, sicrwydd a goruchwylio perfformiad
  2. Gwneud yn siŵr bod ansawdd darpariaeth addysgol sefydliadol yn cael ei gynnal
  3. Cyfrannu at lwyddiant sefydliadol a nodau hirdymor
  4. Helpu i feithrin diwylliant bwrdd cynhwysol a chroesawgar
  5. Dangos diddordeb yng Nghymru a’r cyd-destun Cymreig y gwneir penderfyniadau ynddo.

 

Manyleb yr Unigolyn

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i greu a chynnal diwylliant amrywiol a chynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â lefel uchel o sgiliau a phrofiad personol mewn unrhyw faes o wasanaeth cyhoeddus neu fenter breifat.


Gofynion hanfodol:

Mae gan y Brifysgol ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â phrofiad penodol mewn:

  • Addysg, ac addysg uwch yn ddelfrydol
  • Cyllid, gan gynnwys rheoli buddsoddiadau, bancio neu bensiynau
  • Pobl neu Adnoddau Dynol
  • Cyfreithiol / Llywodraethu
  • Seilwaith Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth


Gofynion dymunol:

  • Profiad sylweddol mewn sefydliadau mawr a/neu gymhleth, neu hanes tebyg o gyflawni ar lefel bersonol
  • Profiad mewn rôl arweinyddiaeth
  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl Ymddiriedolwr neu Anweithredol, yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol
  • Dealltwriaeth o’r cyd-destun ar gyfer addysg uwch ac ymchwil yn y DU

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, statws economaidd-gymdeithasol a/neu oedran.

Rydym hefyd yn awyddus i annog siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd â chysylltiadau cymunedol lleol cryf i wneud cais am y swydd.

Dylai ymgeiswyr hefyd gyfeirio at ein Datganiad ynghylch Annibyniaeth

Yn gyfnewid am hyn mae’r rôl ysgogol hon a fydd yn rhoi boddhad yn cynnig heriau newydd, y cyfle i wneud gwahaniaeth, a datblygiad proffesiynol parhaus i ymgeiswyr llwyddiannus, a hynny yn un o brif sefydliadau addysgol y DU, gan helpu i fynd i’r afael â heriau heddiw ac i addysgu arweinwyr yfory.


Telerau’r Rôl ac Ymrwymiad o ran Amser

Cyfnod y swydd fydd pedair blynedd ac mae’r ymrwymiad amser bras yn cyfateb i rhwng 16 a 18 diwrnod y flwyddyn yn dibynnu ar y rolau a’r cyfrifoldebau ychwanegol a gymerir gan aelodau unigol, sy’n cynnwys fel a ganlyn:

  • pedwar diwrnod ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor
  • pedwar diwrnod/hanner diwrnod ar gyfer hyfforddiant/diwrnodau i ffwrdd, a
  • pum niwrnod ar gyfer aelodaeth o bwyllgor(au) mawr y Cyngor
  • Amser paratoi ar gyfer cyfarfodydd
  • mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau’r Brifysgol megis seremonïau gwobrwyo, graddio a Varsity

Cynhelir Cyfarfodydd y Cyngor fel arfer yng Nghaerdydd rhwng 9am a 5pm a chânt eu cynnig ar sail hybrid (wyneb yn wyneb a rhithwir). Mae pwyllgorau mawr fel arfer yn cyfarfod yn rhithwir.

Nid oes tâl am ymgymryd â’r rôl ond telir costau teithio rhesymol a gellir darparu offer TG yn ôl yr angen

Dogfennau

Disgrifiad o'r Rôl - Aelod Lleyg o'r Cyngor

Lawrlwytho'r

Datganiad Annibyniaeth ar gyfer Aelodaeth Leyg

Lawrlwytho'r