English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Annibynnol

Sut mae Gwneud Cais

Dyma obeithio bod yr wybodaeth ar y wefan hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi drafod y rôl ymhellach cysylltwch â Gillian Blackadder, Katharine Price neu Donogh O’Brien yn Aspen People ar 0141 212 7555.

I wneud cais, defnyddiwch y ddolen isod i lanlwytho eich CV a’ch llythyr eglurhaol yn un ddogfen.

CLICIWCH YMA

Bydd ymgeiswyr yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad wrth baru’r manylion yn eu CV a’u llythyr eglurhaol â’r disgrifiad swydd a manyleb y person. Bydden ni felly yn gofyn i ymgeiswyr roi tystiolaeth glir i ddangos sut mae eich profiad, sgiliau a gwybodaeth yn cyfateb i’r gofynion hynny.

Bydden ni hefyd yn ddiolchgar pe gallai eich datganiad ategol gynnwys manylion dau ganolwr (sylwer na fyddwn yn cysylltu â chanolwyr tan gam cynnig y swydd neu heb ofyn am ganiatâd ymlaen llaw).

Sylwch y bydd eich cais yn dod i law yn cael ei gydnabod gennyn ni ar unwaith. Os na chewch y gydnabyddiaeth hon, cysylltwch â Gillian Blackadder ar 0141 212 7555.

Rydyn ni’n annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod, y rheiny o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill a phobl o dan 55 oed.

Y Broses Ymgeisio

  • Dyddiad Cau: Dydd Llun 24 Mawrth 2025
  • Cyfweliadau: 16 a 30 Ebrill 2025

Monitro Cydraddoldeb

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg, waeth beth fo’ch oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Bydd y manylion personol a’r wybodaeth monitro cydraddoldeb rydych chi’n eu darparu yn cael eu echdynnu a’u cadw’n gyfrinachol at ddibenion monitro. Ni fyddant ar gael i’r panel dethol ac nid ydyn nhw’n rhan o’r broses ddethol.

A fyddech cystal â’n helpu drwy ddarparu’r wybodaeth monitro cydraddoldeb a chymorth y gofynnir amdani isod. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n dymuno rhoi’r wybodaeth hon, gallwch chi nodi y byddai’n well gennych chi beidio â dweud ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich cais. E-bostiwch eich ffurflen monitro cyfle cyfartal wedi’i chwblhau at gblackadder@aspenpeople.co.uk

Documents

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

Download