English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Annibynnol

Llywodraethu a Rheoli

Y Cyngor yw’r corff llywodraethu, ac felly, dyma brif awdurdod y Brifysgol. Y corff hwn sydd â’r gair olaf ynglŷn â phob mater sy’n effeithio ar y Brifysgol. Mae’r Cyngor ym Mhrifysgol Caerdydd yn gorff cryf, amrywiol, sy’n dod â chyfoeth o brofiad ac ymrwymiad eithriadol i lywodraethu’r Brifysgol. Mae aelodau’r Cyngor yn ymgysylltu â staff a myfyrwyr y Brifysgol, ac yn gweithio gyda’r Is-Ganghellor a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i ddatblygu ein hamcanion a’n dyheadau.

Mae’r mwyafrif o aelodau’r Cyngor yn aelodau annibynnol, a cheir hefyd aelodau sy’n rhan o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, y Senedd, yn aelodau staff ac yn fyfyrwyr. Aelodau’r Cyngor yw ymddiriedolwyr y Brifysgol ac mae’r Brifysgol yn elusen gofrestredig. Mae gan aelodau’r Cyngor gyfrifoldeb i gyflawni eu dyletswyddau yn unol â chyfreithiau a Chodau Ymarfer perthnasol.

Cadeirydd y Cyngor yw Patrick Younge. Ac yntau wedi creu gyrfa ryngwladol ym myd y teledu a’r cyfryngau, Patrick (BSc 1987) yw un o brif ffigyrau’r DU ym maes y cyfryngau. Fe’i penodwyd yn Gadeirydd y Cyngor ym mis Ionawr 2022.

Cefnogir y Cyngor yn ei waith gan nifer o bwyllgorau eraill gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, y Pwyllgor Llywodraethu, a’r Pwyllgor Taliadau.

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yw uwch dîm rheoli’r Brifysgol. Mae’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaethau, cynlluniau gweithredol, polisïau a gweithdrefnau, pennu cyllidebau a monitro perfformiad gweithredol ac ariannol. Mae’r Bwrdd yn dîm eang a cholegol o arweinwyr, ac mae’n gweithio’n agos gyda’r Cyngor drwy’r Is-Ganghellor i gyflawni strategaeth a pherfformiad y Brifysgol.