English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Lleyg

Cefndir

Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd ym 1883 yn un o’r colegau a sefydlodd Prifysgol Cymru. Mae ein harwyddair, Gwirionedd, Undod a Chytgord yn nodi ein hymrwymiad i gydweithio, i wneud gwahaniaeth parhaol ac er gwell i’n cymunedau, ac mae’n parhau i lywio ein sefydliad heddiw.

Rydym yn un o’r prifysgolion mwyaf yn y DU a’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n aelod o Grŵp Russell. Bod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd yw ein gweledigaeth, yn rhagorol o ran ymchwil ac addysg, yn ogystal â chael effaith drawsnewidiol mewn cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar Gaerdydd, Cymru, y DU a’r byd.

Rydym wedi ein gwreiddio’n gadarn yn ein hymdeimlad o le. A ninnau’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac yn gyflogwr o bwys, gyda mwy na 7,000 o staff – rydym yn gweithio gyda chymunedau, y byd diwydiant a’r llywodraeth i helpu i oresgyn heriau mwyaf brys ein hoes. Mae pob rhan o gymuned y brifysgol yn chwarae rhan yn ein gweithgarwch ehangu cyfranogiad a chenhadaeth ddinesig sy’n gwneud gwahaniaeth i ystod amrywiol o bobl.

Mae ein heffaith economaidd yn sylweddol. Fe wnaeth adroddiad diweddar amcangyfrif mai £3.7 biliwn oedd ein cyfraniad yn 2020–21, a hynny pan oedd y pandemig ar ei anterth. 6.4:1 yw ein cymhareb budd-dal i gost, sy’n uwch na chyfartaledd Grŵp Russell (5.5:1).

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn ein hystâd a’n seilwaith, gan wneud gwelliannau trawsnewidiol mewn cyfleusterau addysgu ac ymchwil, ac mae partneriaethau newydd a chyffrous wedi deillio o ganlyniad i’r cyfleusterau ymchwil hyn.

O amrywiaeth ein cymuned y daw ein gwir gryfder, gyda dros 30% o staff yn dod o’r tu allan i’r DU yn wreiddiol. Mae staff a myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd a safbwyntiau yn gweithio gyda’i gilydd, wedi’u hysgogi gan chwilfrydedd parhaus ac awydd i wneud gwahaniaeth er gwell.

Mae ein myfyrwyr yn ein gadael yn barod i barhau i lwyddo, gyda 96% o raddedigion mewn swydd, yn gwneud astudiaethau pellach, ar fin dechrau cwrs/swydd newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill yn 2019/20. Mae ein rhwydwaith o gynfyfyrwyr yn parhau i dyfu, mae hyn yn creu llysgenhadon brwdfrydig i’n Prifysgol ar draws ystod gynyddol o wledydd.

More information can be found on the links below:

Gwybodaeth ynghylch Prifysgol Caerdydd

Strwythur sefydliadol – Amdanom ni – Prifysgol Caerdydd