English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Lleyg

Croeso

Croeso i Brifysgol Caerdydd. Rwy’n gobeithio y bydd y pecyn gwybodaeth hwn o gymorth wrth i chi baratoi eich cais.

Ymunais â Phrifysgol Caerdydd i fod yn Gadeirydd y Cyngor yn 2022, felly gallaf rannu ychydig o’r hyn wnaeth fy nghymell i wneud cais am y rôl honno, a’r hyn rwyf wedi’i ddysgu am y Brifysgol hyd yma.

A minnau’n gynfyfyriwr, roedd gen i gysylltiad â’r Brifysgol eisoes ar ôl graddio yn 1987. Fe wnaeth fy mhrofiad yn y brifysgol drawsnewid fy mywyd, felly fy awydd i helpu Caerdydd i barhau i alluogi mynediad at brofiadau addysgol uwch trawsnewidiol wnaeth fy ysgogi i wneud cais i fod yn Gadeirydd y Cyngor. Cafodd Prifysgol Caerdydd ei chreu drwy apêl gyhoeddus am gyllid a rhoddion preifat gan y rhai oedd yn cydnabod na allai myfyrwyr yng Nghymru fforddio teithio i Loegr a’r Alban. Fe’i sefydlwyd yn 1883, ac fe grëwyd neuadd un rhyw yn 1885 i alluogi menywod i gael mynediad at addysg uwch. Yn 1910 penododd y brifysgol Millicent MacKenzie yn athro, sef yr athro llawn benywaidd cyntaf mewn prifysgol siartredig lawn.

Mae’r ymrwymiad cynnar hwnnw i gynnydd cymdeithasol yn parhau hyd heddiw. Mae gan Brifysgol Caerdydd ymrwymiad dwfn i’r cymunedau o’i chwmpas, ac mae ganddi raglenni allgymorth hirsefydlog ar gyfer Cymoedd De Cymru yn ogystal â phrosiectau’r Porth Cymunedol yn ardaloedd Butetown a Grangetown Caerdydd. Mae ei gweithgareddau o ran ei chenhadaeth ddinesig yn mynd ar draws ffiniau rhyngwladol hefyd, yn fwyaf amlwg felly yn ei pherthynas â Phrifysgol Namibia ac yn fwyaf diweddar â Phrifysgol Polytechnig Genedlaethol Zaphorizhzhia yn Wcráin.

Mae Caerdydd yn brifddinas fach, glyfar, ac mae’n datblygu’n gyflym. Mae hi’n wahanol i brifddinasoedd eraill y DU wrth gwrs oherwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac mae ei hagwedd hamddenol tuag at ei dwyieithrwydd yn debyg i’r hyn a geir mewn llawer o wledydd Ewropeaidd. Mae ganddi hefyd un o gymunedau aml-hil hynaf y DU ac mae’n ddinas gynhenid gyfeillgar – mae gwesteion ar ein Diwrnodau Agored yn aml yn tynnu sylw at y croeso cynnes a roddir iddynt gan y bobl tu mewn a thu allan i’r Brifysgol.

Mae’r brifysgol dafliad carreg o Lywodraeth Cymru, sydd â chyfrifoldeb datganoledig dros addysg uwch. Mae gan Brifysgol Caerdydd berthnasoedd gwaith rhagorol gydag uwch-wleidyddion a’u cynghorwyr. Mae hyn yn adlewyrchu pa mor ganolog yw’r brifysgol yn ymdrechion y genedl i gyflawni ei nodau o ran ymchwil ac arloesi, yn ogystal â datblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan olygu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i gyrff cyhoeddus ystyried effaith hirdymor unrhyw benderfyniadau o ran polisïau. Yn ddiweddar, fe wnaethom gytuno i arwain rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn werth £65m ac yn creu cyfleoedd sy’n newid bywydau ar gyfer myfyrwyr drwy eu galluogi i deithio, gwirfoddoli, dysgu a phrofi diwylliannau eraill.

Mae 2023-24 yn gyfnod hynod gyffrous i Gaerdydd, gan ein bod wedi croesawu’r Athro Wendy Larner (cyn Profost Prifysgol Victoria Wellington, Seland Newydd) yn Is-Ganghellor a Llywydd newydd ar y brifysgol o 1 Medi 2023. Yr Athro Larner yw Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Prifysgol Caerdydd yn hanes 140-mlynedd y sefydliad. Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Athro Larner a’r Bwrdd i ddatblygu Strategaeth newydd y Brifysgol dros y flwyddyn i ddod.

Rwy’n gobeithio y bydd y wybodaeth yn y pecyn hwn yn eich cymell i wneud cais i fod yn Aelod Lleyg o Gyngor Prifysgol Caerdydd neu’n Aelod Allanol o’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Bydd y rolau ysgogol hyn yn rhoi boddhad, ac yn rhoi heriau newydd i’r ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnwys y cyfle i ddatblygu’n barhaus yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn uniongyrchol felly yn un o sefydliadau addysgol mwyaf blaenllaw’r DU, gan helpu i fynd i’r afael â heriau heddiw ac addysgu arweinwyr yfory.

Patrick Younge
Cadeirydd y Cyngor