English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Lleyg

Sut mae Gwneud Cais

Dyma obeithio bod yr wybodaeth ar y wefan hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod y rôl ymhellach cysylltwch â Gillian Blackadder, Katharine Price neu Donogh O’Brien yn Aspen People ar 0141 212 7555.

I wneud cais, lanlwythwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol fel un ddogfen trwy’r ddolen isod:

Aelod Lleyg o’r Cyngor
Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg

Bydd ymgeiswyr yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad wrth baru’r manylion yn eu CV a’u llythyr eglurhaol â’r disgrifiad swydd a manyleb y person. Byddem felly yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth glir i ddangos sut mae eich profiad, sgiliau a gwybodaeth yn cyfateb i’r gofynion hynny.

Byddem hefyd yn ddiolchgar pe gallai eich datganiad ategol gynnwys manylion dau ganolwr (sylwer na fyddwn yn cysylltu â chanolwyr tan gam cynnig y swydd neu heb ofyn am ganiatâd ymlaen llaw).

Sylwch y bydd eich cais yn dod i law yn cael ei gydnabod gennym ni ar unwaith. Os na chewch y cydnabyddiaeth hon, cysylltwch â Melissa Scholes ar 0141 212 7555.

Anogir ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rheiny o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill.

 

Y Broses Ymgeisio

Cyfweliadau Aelodau Lleyg: Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023 a Dydd lau 7 Rhagfyr 2023

Cyfweliadau Archwilio a Risg: Dydd Llun 27 Tachwedd 2023 a Dydd lau 30 Tachwedd 2023

 

Monitro Cydraddoldeb

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg, waeth beth fo’ch oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Bydd y manylion personol a’r wybodaeth monitro cydraddoldeb rydych chi’n eu darparu yn cael eu echdynnu a’u cadw’n gyfrinachol at ddibenion monitro. Ni fyddant ar gael i’r panel dethol ac nid ydynt yn rhan o’r broses ddethol.

A fyddech cystal â’n helpu drwy ddarparu’r wybodaeth monitro cydraddoldeb a chymorth y gofynnir amdani isod. Fodd bynnag, os nad ydych yn dymuno darparu’r wybodaeth hon, gallwch nodi y byddai’n well gennych beidio â dweud ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich cais.  E-bostiwch eich ffurflen monitro cyfle cyfartal wedi’i chwblhau i mscholes@aspenpeople.co.uk

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal