English     |      Cymraeg

Recriwtio Aelodau Annibynnol

Cefndir

Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd ym 1883 yn un o’r colegau a sefydlodd Prifysgol Cymru. Mae ein harwyddair, Gwirionedd, Undod a Chytgord yn nodi ein hymrwymiad i gydweithio, i wneud gwahaniaeth parhaol ac er gwell i’n cymunedau, ac mae’n parhau i lywio ein sefydliad heddiw.

Rydym yn un o’r prifysgolion mwyaf yn y DU a’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n aelod o Grŵp Russell. Erbyn 2035, ein gweledigaeth yw:

  • cael ein cydnabod yn fyd-eang am fod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi, a hynny ar sail ein ‘cryfder mewn lleoedd’. I ddechrau, bydd hyn drwy ragoriaeth drosiadol yn y diwydiannau creadigol a gweithgynhyrchu uwch (lled-ddargludyddion cyfansawdd)
  • denu myfyrwyr o bob oed a chefndir sy’n dysgu mewn ystod o ffyrdd, gan ddefnyddio’r addysgeg orau wedi’i galluogi gan ddarpariaeth hyblyg ac arloesi digidol.
  • cael ein dewis gan gyn-fyfyrwyr, partneriaid ac arianwyr rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang sy’n ceisio prifysgol sy’n ddewr o ran sut mae’n wynebu’r dyfodol
  • bod yn bartner hollbwysig gwerthfawr a gweithgar yn ein dinas-ranbarth, gan ysgogi cynnydd sylweddol ym Mharth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Ganolfan Gwyddorau Iechyd Academaidd
  • bod yn gyflogwr ac addysgwr delfrydol, gyda gweithlu a myfyrwyr llewyrchus a rhyngwladol sydd hefyd yn cynrychioli amrywiaeth ein dinas-ranbarth.

Mae gennyn ni wreiddiau dwfn yn ein hymdeimlad o le. Mae ‘Cynefin’ yn faen prawf i ni – lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn. Prifysgol brifddinas ydyn ni; yn sefydliad sy’n hollbwysig i Gaerdydd a Chymru, sy’n ymgorffori Cymreictod ac yn cofleidio’r Gymraeg, ac sy’n falch o’n treftadaeth. A ninnau’n brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac yn gyflogwr o bwys, gyda mwy na 7,000 o staff – rydym yn gweithio gyda chymunedau, y byd diwydiant a’r llywodraeth i helpu i oresgyn heriau mwyaf brys ein hoes. Mae pob rhan o gymuned y brifysgol yn chwarae rhan yn ein gweithgarwch ehangu cyfranogiad a chenhadaeth ddinesig sy’n gwneud gwahaniaeth i ystod amrywiol o bobl.

Mae ein heffaith economaidd yn sylweddol. Fe wnaeth adroddiad diweddar amcangyfrif mai £3.7 biliwn oedd ein cyfraniad yn 2020–21, a hynny pan oedd y pandemig ar ei anterth. 6.4:1 yw ein cymhareb budd-dal i gost, sy’n uwch na chyfartaledd Grŵp Russell (5.5:1).

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn ein hystâd a’n seilwaith, gan wneud gwelliannau trawsnewidiol mewn cyfleusterau addysgu ac ymchwil, ac mae partneriaethau newydd a chyffrous wedi deillio o ganlyniad i’r cyfleusterau ymchwil hyn.

Rydyn ni’n dathlu bod yn amlddiwylliannol ac amlieithog, yn tynnu ynghyd y meddyliau gorau o bob rhan o’r byd ac yn meithrin doniau cartref. O amrywiaeth ein cymuned y daw ein gwir gryfder, gyda dros 30% o staff yn dod o’r tu allan i’r DU yn wreiddiol. Mae staff a myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd a safbwyntiau yn gweithio gyda’i gilydd, a chânt eu hysgogi gan chwilfrydedd parhaus ac awydd i wneud gwahaniaeth er gwell.

Mae ein myfyrwyr yn ein gadael yn barod i barhau i lwyddo, gyda 95% o raddedigion mewn swydd, yn gwneud astudiaethau pellach, ar fin dechrau cwrs/swydd newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill yn 2020/21. Mae ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yn tyfu o hyd, gan greu llysgenhadon brwdfrydig i’n Prifysgol ar draws ystod gynyddol o wledydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dolenni isod: