English     |      Cymraeg

Cyfarwyddwr yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Ynglŷn â QAA

Yr hyn a wnawn

Rydym yn diogelu safonau ac yn gwella ansawdd addysg uwch y DU, ble bynnag y caiff ei darparu ledled y byd

Rydym yn gwirio bod myfyrwyr sy’n gweithio tuag at gymwysterau’r DU yn cael yr addysg uwch y mae ganddynt hawl i’w disgwyl.

Ein Gwaith

Fel y corff annibynnol yr ymddiriedir ynddo i fonitro a chynghori ar safonau ac ansawdd addysg uwch y DU, rydym wedi ymrwymo i wneud yn sicr bod y tair miliwn o fyfyrwyr sy’n gweithio tuag at gymwysterau’r DU yn cael y profiadau addysg uwch y mae ganddynt hawl i’w disgwyl. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud â phob agwedd ar ein gwaith.

Rydym yn gweithio ar draws pedair gwlad y DU. Rydym hefyd yn adeiladu partneriaethau rhyngwladol i wella a hyrwyddo enw da addysg uwch y DU ledled y byd.

Ein Gwaith yn Lloegr

Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Myfyrwyr a darparwyr i sicrhau ansawdd addysg uwch yn Lloegr.

Darllenwch fwy yma

Ein Gwaith yn yr Alban

Mae QAA yn gweithio gyda Chyngor Cyllido’r Alban i sicrhau ansawdd addysg uwch yn yr Alban.

Darllenwch fwy yma

Ein Gwaith yng Nghymru

Rydym ni’n gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau ansawdd addysg uwch yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma

Ein Gwaith yng Ngogledd Iwerddon

Rydym yn gweithio gydag Adran yr Economi a darparwyr i sicrhau ansawdd addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon.

Darllenwch fwy yma

Gweithio’n Rhyngwladol

Mae’r DU yn chwarae rhan arwyddocaol ym maes addysg uwch ryngwladol. Mae gennym ran flaenllaw mewn datblygiadau rhyngwladol o ran safonau ac ansawdd.

Darllenwch fwy yma

Gallwch ganfod mwy amdanom yma:

Sut rydyn ni’n cael ein rhedeg
Ble rydym yn gweithio
Gyda phwy rydyn ni’n gweithio 

 

Ein Cenhadaeth

Diogelu safonau a gwella ansawdd addysg uwch y DU ble bynnag y caiff ei darparu ledled y byd

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw system addysg uwch sydd o safon fyd-eang, ag iddi sicrwydd annibynnol.

Ein Gwerthoedd

Cydweithredu

  • Mae ein Bwrdd yn ymgorffori cyd-reoleiddio, gan gynrychioli buddiannau myfyrwyr, darparwyr a rhanddeiliaid – sy’n cydweithio i arwain QAA,
  • ac rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr, asiantaethau sector a chyrff proffesiynol, gan gydweithredu er budd y sector.
  • Rydym yn gweithio ar y cyd â myfyrwyr a mudiadau myfyrwyr i ymgysylltu â myfyrwyr a gwella eu profiad dysgu.
  • Drwy gydweithredu, rydym yn cefnogi gofynion unigryw gwledydd cartref y DU.

Arloesedd

  • Rydym yn darparu dulliau, gwasanaethau a digwyddiadau gwerthfawr newydd arloesol i wella arfer a chynnig cefnogaeth i ddarparwyr,
  • yn ogystal ag adolygu ein systemau a’n prosesau mewnol yn arloesol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd sy’n gost-effeithiol

Arbenigedd

  • Rydym yn darparu cyngor arbenigol i lywodraethau’r DU,
  • gan ddefnyddio ein harbenigedd i gryfhau sicrwydd ansawdd yn rhyngwladol
  • a defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd er budd darparwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid.

Atebolrwydd

  • Rydym yn atebol i’n rhanddeiliaid drwy ein strwythurau llywodraethiant,
  • ac mae gennym brosesau cwyno ac apelio ar waith i sicrhau ein bod yn cael ein dal yn atebol am ein penderfyniadau.

Uniondeb

  • Mae uniondeb wrth galon yr asiantaeth ac, fel elusen gofrestredig, rydym yn gweithredu er budd y cyhoedd yn gyffredinol.
  • Rydym yn deg ac yn dryloyw yn ein gweithgareddau, gan weithredu gydag uniondeb bob amser.